Rydym am i bob plentyn ac unigolyn ifanc ddatblygu ymdeimlad o berthyn fel dinesydd eu prifddinas.
I gymryd rhan, gofynnwn i unrhyw beth yr ydych wedi'i brofi yng Nghaerdydd gael ei gofnodi trwy'r broses isod. Gallwch ysgrifennu amdano neu anfon llun atom.
Efallai eich bod wedi ymweld â Bae Caerdydd neu’ch canolfan hamdden leol, wedi mynd am dro gyda ffrindiau a theulu trwy Barc Bute, efallai eich bod hyd yn oed wedi mynychu sioe neu ddigwyddiad chwaraeon yn un o amwynderau Caerdydd o'r radd flaenaf – rhowch wybod i ni amdani!
Mae ein map o Gaerdydd yn dangos lleoliadau allweddol yn ein dinas. Gallai'r rhain fod yn fan cychwyn i archwilio canol y ddinas.
AMSER CYSTADLEUAETH:
I'ch rhoi ar ben ffordd, rydym yn cynnal cystadleuaeth i'r rhai sy'n defnyddio'r map ac yn ymweld â'r lleoliadau allweddol hyn.
Bydd y gystadleuaeth yn rhedeg o fis Hydref tan 1 Ebrill 2024.
Gwobrau:
2 leoliad = Bag nwyddau Pasbort i'r Ddinas x 15
5 lleoliad = Citiau Microbit y BBC x 10
7 lleoliad = Anrheg syrpreis x 10
Pob lleoliad = Blwch codio Lego Spike/Mindstorm x 3
Bydd pob cais trwy'r ffurflen isod yn mynd i mewn i raffl ar 1 Ebrill 2024.
Cymerwch ran