Mae PASPORT I'R DDINAS yn rhaglen a ariennir gan y Gronfa Ffyniant Bro o fewn Cyngor Caerdydd i sicrhau bod plant a phobl ifanc o bob cefndir yn mwynhau'r cyfleusterau o safon fyd-eang sydd gan Gaerdydd i'w cynnig.
Rydym yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc ledled Caerdydd, gan gynnig darpariaeth gyffredinol, cymorth wedi’i dargedu, ac ymyrraeth bwrpasol yn ôl yr angen.
Mae'r fenter unigryw hon wedi'i chynllunio i ymgysylltu â phlant a phobl ifanc yn y ddinas a'u grymuso trwy ddarparu cyfleoedd i archwilio, profi a dysgu am eu cymuned, eu treftadaeth a'u hamgylchedd.